Grŵp Trawsbleidiol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Drais yn erbyn Menywod a Phlant.

 

Dyddiad:                  21 Hydref 2014

Lleoliad:             Ystafell Gynadledda 24, Tŷ Hywel.

 

Yn bresennol: Jocelyn Davies AC (Cadeirydd), Christine Chapman AC, Julie Morgan AC

Rhayna Pritchard (Ymchwilydd i Jocelyn Davies AC), Angharad Lewis (Swyddog Cyfathrebu i Jocelyn Davies AC), Colin Palfrey (Staff Cymorth Lindsey Whittle AC), Ellie Mower (Staff Cymorth Peter Black AC), Liz Newton (Staff Cymorth Peter Black AC), Jocelyn Robinson (Staff Cymorth Julie Morgan), Sion Mile (Staff Cymorth Julie Morgan AC), Sam Rock (Staff Cymorth Julie Morgan AC).

Tina Reece (Cymorth i Fenywod Cymru), Lucy Holmes (Cymorth i Fenywod Port Talbot a Hafan), Donna Marie Lowe (Survivors Trust) Johanna Robinson (Survivors Trust), Elle McNeill (Canolfan Cyngor ar Bopeth), Sara Reid (‘Sdim Curo Plant), Paula Hardy (Heddlu De Cymru), Jan Pickles (Heddlu De Cymru), Bernie Bowen-Thompson (Cymru Ddiogelach), Simon Borja (Cymru Ddiogelach), Ruth Allen (Hafan Cymru), Ruth Mullineux (NSPCC), Vivienne Laing (NSPCC),

 

1        Croeso

          Croeso gan Jocelyn Davies AC (Cadeirydd).

2        Ymddiheuriadau

Leighton Andrews AC, David Melding AC, Cathy Owens (Deryn), Phil Walker (The Survivors Trust), Jackie Stamp (Llwybrau Newydd), Emma Renold (Prifysgol Caerdydd), Jacqueline Hay (Llamau).

3        Tina Reece, Swyddog Polisi ac Ymgyrchoedd - Cymorth i Fenywod Cymru. Papur briffio ar ystadegau trais yn y cartref Gwasanaeth Erlyn y Goron

Yn gyffredinol mae erlyniadau / euogfarnau wedi cynyddu.

Mae ystadegau Gwasanaeth Erlyn y Goron ar honiadau ffug o Drais Domestig a thrais rhywiol yn llawer is nag y credwyd. Fel arfer, mae ffactorau eraill fel oedran a iechyd meddwl y tu ôl i honiadau ffug

Mae cyfraddau athreuliad uchel yn Ne Cymru ond mae cyfraddau’r DU wedi gostwng yn gyffredinol.

 

Trais yn erbyn Menywod a Genethod

Mae copi llawn o’r adroddiad ar gael yn:

4        Trafodaeth agored ar ymateb y Grŵp i’r Bil Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru).

          Y meysydd a drafodwyd oedd:

·         Y Bil yn gyffredinol.

·         Cynnwys y Bil.

·         Ymgynghorydd y Llywodraeth.

·         Gwasanaethau i ddioddefwyr.

·         Tramgwyddwyr.

·         Diffiniadau

·         Cerydd resymol.

Bydd Jocelyn Davies AC yn ysgrifennu at y Gweinidog Gwsanaethau Cyhoeddus, gyda chopi at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, yn amlinellu ymateb y Grŵp. Cytunodd y Grŵp bod angen i’r Bil gynnwys polisi llawer cryfach ar addysg, a hefyd bod angen gwelliant i gynnwys tynnu cosb resymol fel amddiffyniad cyfreithiol.

5        Unrhyw fater arall

          Dim.  

6        Dyddiad y cyfarfod nesaf

 

          I’w gyhoeddi.